R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan
buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1.
Sandy Mewies (Delyn):Pa
gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i Ddiwrnod Rhyngwladol
y Menywod. OAQ(4)0940(FM)
2. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):
A
wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dlodi plant yn Ne Caerdydd a
Phenarth. OAQ(4)0945(FM)
3. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
A
wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am
ddiogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru. OAQ(4)0949(FM)
4. Alun Ffred
Jones (Arfon):Pa drafodaethau y
mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael â Llywodraeth y DU am y
bwriad i breifateiddio rhannau helaeth o’r gwasanaeth prawf.
OAQ(4)0938(FM)W
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd):Pa wersi y gall Cymru eu dysgu o Adroddiad Francis ar ofal
cleifion yn Ysbyty Ymddiriedolaeth GIG Canolbarth Swydd
Stafford. OAQ(4)0937(FM)
6. Lynne Neagle (Torfaen):A
wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn amlinellu manteision Nodyn
Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo
i gymunedau yng Nghymru.OAQ(4)0941(FM)
7. Peter Black (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu cynllun
gwarant morgais Llywodraeth Cymru.OAQ(4)0939(FM)
8.
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru):Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu gofal
i'r newydd-anedig yng Ngogledd Cymru.OAQ(4)0944(FM)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am system anrhydeddu
arfaethedig Cymru. OAQ(4)0943(FM)
10. Mick
Antoniw (Pontypridd):A
wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaethau Llywodraeth
Cymru o ran asesu a mynd i’r afael â chaethiwed i
hapchwarae. OAQ(4)0946(FM)
11. David Rees (Aberafan):A yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU am reoleiddio asiantaethau sy'n cyflenwi athrawon i ysgolion. OAQ(4)0947(FM)
12. William Graham (Dwyrain De Cymru):A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i ddiwygio Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo. OAQ(4)0948(FM)
13. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru):O gofio anallu parhaus Byrddau Iechyd Lleol i gadw o fewn eu cyllideb, pa ystyriaeth fydd y Prif Weinidog yn ei rhoi i ganiatáu'r un amserlen gyllidebu 3 blynedd iddynt ag a ganiatawyd i awdurdodau lleol. OAQ(4)0936(FM)
14. Elin Jones (Ceredigion):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y gyllideb Ewropeaidd ar Gymru. OAQ(4)0942(FM)W
15. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddiwydiant y cyfryngau yng Nghymru.OAQ(4)0935(FM)